Bu i Mr A gwyno ei fod yn anfodlon ag ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i’w g?yn am ei ofal a’i driniaeth wroleg.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y cafwyd oedi estynedig diangen cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn. Parodd hyn i’r Bwrdd Iechyd roi gwybod i Mr A nad oedd modd ystyried y pryderon a oedd yn weddill am eu bod y tu hwnt i derfyn amser y drefn gwyno. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno i fynd ati cyn pen mis i ymddiheuro i Mr A, ac i ddarparu ymateb i’r pryderon a oedd yn weddill ynghylch ei ofal a’i driniaeth. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y pethau hyn.