Dyddiad yr Adroddiad

24/04/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202409991

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms N nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i gŵyn yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a gafodd ei mam, cwyn a gyflwynwyd ganddi ym mis Ionawr 2025.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ysgrifennu at Ms N ym mis Chwefror i’w hysbysu fod yr ymateb wedi’i gwblhau ac yn aros i gael ei gymeradwyo. Roedd hyn wedi achos rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol iddi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms N, o fewn 7 diwrnod gwaith, i’w diweddaru ar ei gynnydd ac i gyhoeddi diweddariadau misol os na ellir cyhoeddi’r ymateb o fewn 1 mis.