Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w gŵyn a gyflwynwyd iddo ym mis Mai 2024. Roedd hefyd wedi methu â darparu diweddariadau rheolaidd ac wedi methu ag ymateb i sawl e-bost.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i gŵyn Mr X ac wedi methu â darparu diweddariadau rheolaidd yn unol â’i broses gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn, a ddylai hefyd gynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi. Dylai hefyd gynnig taliad iawndal o £100 i gydnabod yr oedi, y diffyg diweddariadau rheolaidd a’r angen i fynd at yr Ombwdsmon.