Dyddiad yr Adroddiad

23/01/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202407486

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w chŵyn a gyflwynwyd iddo ym mis Mehefin 2024.

 

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi sawl llythyr dros dro, ei fod wedi methu â darparu ymateb ffurfiol i gŵyn yn unol â’i broses gwyno fewnol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb ffurfiol i’r gŵyn o fewn 6 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon. Dylai’r penderfyniad hefyd gynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi.