Cwynodd Ms X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd gan Ms X ym mis Mai 2024 mewn perthynas â marwolaeth sydyn ei phartner. Cwynodd Ms X ymhellach ei bod hi a’i heiriolwr wedi gorfod mynd ar ôl y Bwrdd Iechyd i gael unrhyw ddiweddariadau, ac roedd Ms á yn teimlo bod lefel y cyfathrebu’n wael.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Ms X yn unol â’i broses gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn, a chynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a’r diffyg diweddariadau, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny. Dylid cynnig taliad gwneud iawn o £100 hefyd i Ms X i gydnabod yr amser a’r drafferth o orfod mynd ar drywydd diweddariadau ac am yr angen i gysylltu â’r Ombwdsmon (o fewn 3 wythnos).