Dyddiad yr Adroddiad

02/23/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202308928

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms L nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i gŵyn a wnaeth iddo ym mis Rhagfyr 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod Ms L wedi cwyno i ddechrau ym mis Rhagfyr 2022 ac uwchgyfeiriwyd ei chŵyn ymhellach ym mis Mai 2023. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb na rhoi diweddariadau priodol i Ms L. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms L a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms L am fethu ag ymateb na rhoi diweddariadau priodol iddi, esbonio’r rhesymau dros yr oedi, cynnig talu iawndal i Ms L o £250 ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.