Dyddiad yr Adroddiad

02/29/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202308831

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i’w gŵyn a gyflwynwyd iddo ym mis Mehefin 2023, am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w ddiweddar dad.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi ac esgeulustod wedi bod gyda’r ymateb, a dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anhwylustod i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad i’r achwynydd am yr oedi, cynnig iawndal o £100 a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.