Dyddiad yr Adroddiad

02/26/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202308500

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i’w gŵyn a gyflwynwyd iddo ym mis Hydref 2023, am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w ddiweddar fam.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyflwyno ymateb i’r gŵyn ac nad oedd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Mr L. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr L. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr L i ymddiheuro am y methiant i ddarparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon, ac i ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.