Dyddiad yr Adroddiad

02/16/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202308420

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i gŵyn a wnaeth iddo ym mis Gorffennaf 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r achwynydd yn uniongyrchol yn ystod yr ymchwiliad, ond nad oedd wedi cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms X am yr oedi, esbonio’r rhesymau dros yr oedi, ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.