Dyddiad yr Adroddiad

02/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202307593

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynwyd ym mis Awst 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb llawn i bryderon a godwyd gan Mrs S ym mis Rhagfyr 2022, ond nad oedd wedi rhoi sylw i’r pryderon cynharach a godwyd gan Mrs S ym mis Awst 2022.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb i gŵyn i Mrs S, gan fynd i’r afael â’r materion a godwyd fis Awst 2022, o fewn 20 diwrnod gwaith.