Dyddiad yr Adroddiad

01/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202306139

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr U fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i gwynion a gyflwynwyd yn Chwefror a Mehefin 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cydymffurfio â’r broses Gweithio i Wella ond penderfynodd y bu oedi sylweddol cyn i’r Bwrdd Iechyd gwblhau eu hymchwiliad, a achosodd rwystredigaeth ychwanegol i Mr U. Felly, penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb o fewn 3 wythnos.