Dyddiad yr Adroddiad

01/18/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202307690

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms G fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddynt ym Mai 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cyn ymateb i gŵyn Ms G, a dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms G. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms G am yr oedi ac esbonio’r rhesymau dros hynny, a chynnig talu iawndal o £150 i Ms G, o fewn 2 wythnos. Hefyd, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflwyno eu hymateb i gŵyn Ms G o fewn 6 wythnos.