Dyddiad yr Adroddiad

10/19/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202305735

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs T fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu cyhoeddi ymateb i gŵyn ganddi erbyn y dyddiad y cytunwyd arno mewn datrysiad cynnar blaenorol gyda swyddfa’r Ombwdsmon. Roedd hefyd wedi methu cyflawni terfyn amser estynedig ar gyfer cyhoeddi’r ymateb.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi annerbyniol yn ymateb y Bwrdd Iechyd i Mrs T a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol iddi.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu iawn pellach o £100 i Mrs T a darparu ymateb i’w chwyn o fewn pythefnos. Derbyniodd yr Ombwdsmon y camau gweithredu hyn yn hytrach na chyhoeddi Adroddiad Arbennig.