Dyddiad yr Adroddiad

10/31/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202305057

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Medi 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu gweithredu yn unol â’u gweithdrefn gwyno statudol, ac wedi methu darparu diweddariadau ystyrlon i Mr L. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr L. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ac esboniad i Mr L am yr oedi a brofodd, cyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn a chynnig taliad amser a thrafferth o £250 i wneud iawn am yr oedi o fewn 4 wythnos.