Dyddiad yr Adroddiad

09/11/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202304064

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i’r gŵyn roedd hi wedi’i chyflwyno iddo ym mis Ionawr 2023, ac wedi methu darparu diweddariadau iddi.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod oedi wedi bod o ran darparu ymateb i gŵyn Ms A a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu diweddariadau rheolaidd neu ystyrlon i Ms A. Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac roedd y Bwrdd wedi cytuno i roi’r camau canlynol ar waith cyn pen 12 wythnos er mwyn datrys y gŵyn ac fel dewis arall yn lle ymchwiliad ffurfiol:

• Ymddiheuro i Ms A am yr oedi ac am fethu rhoi diweddariadau iddi, ac am fethu esbonio’r rhesymau am hyn.

• Cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn.

• Cynnig taliad o £75 i Ms A am ei hamser a’i thrafferth yn cyflwyno’i chwyn i swyddfa’r Ombwdsmon.