Dyddiad yr Adroddiad

09/20/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202303667

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i gŵyn a wnaeth ym mis Rhagfyr 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod ar ran y Bwrdd Iechyd cyn ymateb, a bod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mrs C. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael y Bwrdd Iechyd i gytuno i ymddiheuro i Mrs C ac i dalu iawndal o £50 iddi i gydnabod yr oedi. Hefyd, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i gŵyn Mrs C cyn pen 4 wythnos.