Dyddiad yr Adroddiad

09/20/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202304362

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Ionawr 2023. Cwynodd hefyd am gyfathrebu gwael a diffyg diweddariadau rheolaidd gan y Bwrdd Iechyd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod ar ran y Bwrdd Iechyd cyn ymateb a’i fod wedi methu rhoi diweddariadau i Mr X. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr X ac i ddarparu ymateb i’w gŵyn cyn pen 3 wythnos.