Dyddiad yr Adroddiad

08/23/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202303344

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr K fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2022.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol cyn i’r Bwrdd Iechyd gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra ychwanegol i Mr K.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn ddim hwyrach na 30 Medi 2023.