Dyddiad yr Adroddiad

08/22/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202303325

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â darparu ymateb i’w chŵyn a wnaeth 9 mis yn ôl.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi cyn i’r Bwrdd Iechyd gyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs A i ymddiheuro ac esbonio’r oedi cyn ymateb i’r gŵyn, cynnig talu iawndal o £75 iddi am yr amser a’r anghyfleustra o wneud ei chŵyn i’r Ombwdsmon, a chyhoeddi ymateb o fewn 2 wythnos.