Dyddiad yr Adroddiad

08/30/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202303257

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms V fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Medi 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gan y Bwrdd Iechyd cyn ymateb, ac roedd hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Ms V. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms V a chynnig iawndal o £75 iddi i gydnabod yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ddarparu’r ymateb i’r gŵyn o fewn wythnos.