Dyddiad yr Adroddiad

08/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202303079

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms S nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyhoeddi ymateb pellach i’w chŵyn ac nad oedd wedi cyfathrebu’n effeithiol yn ystod ei ymchwiliad.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi cyn i’r Bwrdd Iechyd gyhoeddi ymateb pellach. At hynny, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i geisiadau am ddiweddariadau ac roedd wedi methu darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro a rhoi’r esboniad angenrheidiol i Ms S am yr esgelustod, cynnig talu iawndal o £75 iddi am yr amser a’r anghyfleustra o wneud ei chŵyn i’r Ombwdsmon, a chyhoeddi ymateb pellach o fewn 2 wythnos.