Dyddiad yr Adroddiad

05/19/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202103837

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar fam, Mrs B, ar ôl iddi gael ei throsglwyddo o Ysbyty Brenhinol Gwent (“yr Ysbyty Cyntaf”), yn ystod cyfnod a dreuliodd yn Ysbyty Ystrad Fawr (“yr Ail Ysbyty”) rhwng 19 Awst ac 8 Medi 2020. Cwynodd nad oedd canllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru wedi’u dilyn ar gyfer ymweld â Mrs B yn yr Ail Ysbyty, nid oedd maethiad a meddyginiaeth Mrs B wedi’u rheoli yn ystod wythnosau olaf ei bywyd, bu methiant i reoli dirywiad Mrs B ac i ddarparu gofal diwedd oes priodol ac urddasol. Cwynodd Mrs A hefyd nad oedd cofnodion meddygol Mrs B wedi’u cynnal yn gywir.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu yn unol â’r canllawiau ynglŷn â mynediad ymwelwyr i’r Ail Ysbyty yn ystod y cyfnod COVID-19. Canfu bod dirywiad Mrs B wedi’i reoli mewn dull priodol ac urddasol ac nad oedd unrhyw ddiffygion arwyddocaol yn ansawdd cofnodion meddygol Mrs B.

Canfu’r Ombwdsmon, ar wahân i un gwall rhagnodi (a ddigwyddodd oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng yr Ysbyty Cyntaf a’r Ail Ysbyty) nag oedd wedi arwain at unrhyw ganlyniad clinigol andwyol, roedd y maethiad a meddyginiaeth Mrs B wedi’u rheoli’n briodol. Gwahoddodd y Bwrdd Iechyd i fyfyrio ar y methiant er mwyn sicrhau bod gwybodaeth glinigol yn cael ei throsglwyddo’n ddigonol rhwng yr ysbytai. Cydnabu’r Bwrdd Iechyd y methiant hwn ac mae wedi cyflwyno dogfen drosglwyddo electronig ar gyfer cleifion, wedi’i hategu gan broses drosglwyddo rhwng timau wardiau.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion.