Dyddiad yr Adroddiad

05/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207435

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A bod ei diweddar dad wedi cael COVID-19 yn ystod ei arhosiad yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y gŵyn hon wedi’i hystyried o dan Fframwaith Cenedlaethol GIG Cymru, a sefydlwyd i ystyried cwynion ynglŷn â heintiau COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ystyried y gŵyn o dan y Fframwaith Cenedlaethol.