Dyddiad yr Adroddiad

04/28/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202208242

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â darparu ymateb i’w gŵyn a wnaeth ym mis Medi 2022. Cwynodd Mr B hefyd, er iddo ofyn i’r Bwrdd Iechyd gyfeirio gohebiaeth yn uniongyrchol iddo, ei fod wedi methu â gwneud hynny.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyfeirio gohebiaeth yn uniongyrchol i Mr B, nad oedd wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon, ac nad oedd wedi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr B a rhoi esboniad am yr oedi, diffyg diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac am fethu â chyfeirio gohebiaeth iddo. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gynnig £75 i wneud iawn i Mr B a rhoi ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.