Dyddiad yr Adroddiad

04/11/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202300165

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w chwyn erbyn y dyddiad y cytunwyd arno mewn datrysiad cynnar blaenorol gyda swyddfa’r Ombwdsmon.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi annerbyniol pellach wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i Mrs A a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol iddi.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs A am yr oedi pellach, gwneud taliad pellach o £100 i wneud iawn am hyn ac ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos. Derbyniodd yr Ombwdsmon y camau hyn yn hytrach na chyflwyno Adroddiad Arbennig.