Dyddiad yr Adroddiad

03/21/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207273

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs F nad oedd wedi cael unrhyw ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ynghylch ei chŵyn ers mis Rhagfyr 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs F a darparu diweddariadau priodol wrth i’w chŵyn fynd drwy’r broses unioni cam.