Dyddiad yr Adroddiad

03/16/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207429

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb iddo i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Hydref 2021.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi sylweddol yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, a arweiniodd at Mr X yn cysylltu â’r Ombwdsmon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn ac ymddiheuro am yr oedi o fewn 3 wythnos. Cytunodd hefyd i dalu iawndal ariannol o £250 i Mr X i gydnabod yr amser a’r drafferth a achosodd.