Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202205957

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs L, er iddi leisio pryderon am ofal ei mam wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, nad oedd y Bwrdd wedi ei diweddaru na rhoi ymateb iddi.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod Mrs L heb dderbyn ymateb, ac wedi cysylltu â’r Bwrdd Iechyd. Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chydymffurfio â’i weithdrefn gwyno statudol a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs L.

Yn lle ymchwilio, gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mrs L am yr oedi, a’i diweddaru ar yr achos o fewn 30 diwrnod gwaith. Cytunodd hefyd i roi ymateb ffurfiol i Mrs L o fewn pedwar mis.