Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202205827

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr L, er iddo wneud cwyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ym mis Medi 2022, nad oedd wedi derbyn ymateb.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chydymffurfio â’i weithdrefn gwyno statudol a bod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth diangen i Mr L.

Yn lle ymchwilio, gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mr L a rhoi esboniad iddo am yr oedi, o fewn 30 diwrnod gwaith, ac i roi ymateb ffurfiol iddo o fewn tri mis.