Cwynodd Mrs B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu cyhoeddi ymateb i’w chwyn, a gyflwynodd iddo ym mis Mai 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs B. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro a rhoi esboniad i Mrs B am yr oedi, cynnig iawndal o £75 i gydnabod yr amser a dreuliodd a’r drafferth yr aeth iddi yn gwneud ei chwyn i’r Ombwdsmon, ac ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.