Cwynodd Mr A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ymateb i’r pryderon a godwyd gan Mr A a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr A.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad, esboniad am yr oedi cyn ymateb a chyhoeddi ymateb cynhwysfawr i’r gŵyn i Mr A o fewn mis.