Cwynodd Mrs A bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu cynnal ymchwiliad neu ddarparu ymateb iddi ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar ŵr, Mr A.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi dechrau Ymchwiliad Digwyddiad Difrifol ym mis Ebrill 2024 a bod oedi sylweddol wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd gwblhau’r ymchwiliad ac ymateb i Mrs A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac esbonio’r rhesymau dros yr oedi, cynnig taliad iawndal o £250 i Mrs A fel cydnabyddiaeth o’r oedi, a chyflwyno ymateb i’w chwyn gyda’r broses ‘Gweithio i Wella’ o fewn 8 wythnos.