Dyddiad yr Adroddiad

23/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202502982

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr H bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i gwynion a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2023 a mis Medi 2024. Cwynodd hefyd eu bod wedi methu cyfathrebu’n uniongyrchol gyda’i eiriolwr.

Canfu’r Ombwdsmon bod oedi sylweddol wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd gyflwyno’r ymatebion i’r gŵyn. Ers cyfranogiad ei swyddfa, roedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb yn uniongyrchol i Mr H, fodd bynnag, methodd â hysbysu’r eiriolwr yn unig ynglŷn â hyn yn unol â’i gais. Achosodd hyn rwystredigaeth ychwanegol i Mr H.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsman gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at eiriolwr Mr H o fewn 2 wythnos ac ymddiheuro am yr oedi, am gyfathrebu gydag ef yn erbyn ei ddymuniad. Cytunodd hefyd i gynnig taliad iawndal ariannol o £150.