Dyddiad yr Adroddiad

08/17/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202302903

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymateb i gŵyn a wnaeth.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Ms C oherwydd ymadawiad aelod o staff. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Ms C.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms C o fewn 3 wythnos i ymddiheuro ac i ymateb i’r gŵyn.