Dyddiad yr Adroddiad

05/09/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202208404

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynwyd iddynt ym mis Hydref 2022 ynglŷn â’i Meddygfa.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi methu cyhoeddi ymateb ysgrifenedig i Mrs C yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb llawn i Mrs C mewn ymateb i’w chwyn ac ymddiheuriad am eu methiant i ymateb, a hynny o fewn 10 diwrnod gwaith.