Dyddiad yr Adroddiad

03/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207074

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss S am y ffordd y deliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe â’i chŵyn am yr oedi cyn rhoi triniaeth iddi.

Er bod y Bwrdd Iechyd wedi bod yn darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Miss S, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd wedi cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am yr oedi parhaus, cynnig iawndal o £250 iddi a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.