Dyddiad yr Adroddiad

01/12/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202205364

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr X am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei ddiweddar dad yn ystod arhosiad yn yr ysbyty yn Ebrill 2022. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol ond roedd Mr X wedyn wedi cael copi o gofnodion iechyd ei dad gan arwain at godi pryderon pellach.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y byddai’n fuddiol i Mr X dderbyn ymateb pellach gan y Bwrdd Iechyd. Yn lle ymchwilio i’r gŵyn, penderfynodd yr Ombwdsmon wneud argymhellion ac fe gytunodd y Bwrdd Iechyd i’w gweithredu.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyfarfod â Mr X i drafod y pryderon pellach am ofal ei dad. Cytunodd i gysylltu â Mr X o fewn pum diwrnod gwaith i benderfyniad yr Ombwdsmon, i drefnu dyddiad cyfleus i gael cyfarfod.