Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206521

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss L nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i gŵyn a wnaeth ym mis Ebrill 2022.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chydymffurfio â’i weithdrefn gwyno statudol a heb ddiweddaru Miss L ar ei ymchwiliad. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss L.

Yn lle ymchwilio, gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Miss L am yr oedi, rhoi ymateb ffurfiol iddi a thalu £250 iddi am ei hamser a’i thrafferth, o fewn 30 diwrnod gwaith.