Honnodd Clerc Cyngor Tref y Fenni (“y Cyngor”) fod y Cyn-aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol yng Nghymru (“y Cod”). Roedd hyn yn deillio o bryderon am ymddygiad aflonyddu honedig tuag at unigolyn yn gweithio ar ran y Cyngor.
Penderfynasom ei bod yn briodol ymchwilio i weld a oedd yr Aelod wedi cadw at ei ddyletswyddau fel cynghorydd i drin eraill ag ystyriaeth a pharch; i beidio ag aflonyddu na bwlio eraill; ac a oedd wedi methu ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ystyried ei bod yn dwyn anfri ar ei swydd fel cynghorydd, neu ar ei gyngor.
Casglwyd tystiolaeth gan y Cyngor, a chyfwelwyd hefyd â’r unigolyn oedd yn gweithio ar ran y Cyngor. Gwelsom fod rhywfaint o dystiolaeth o bryder ynghylch ymddygiad y Cyn-aelod.
Cyn trefnu cyfweliad â’r Cyn-aelod am y mater, gwelsom ei fod wedi rhoi’r gorau i fod yn aelod gan nad oedd wedi mynychu cyfarfodydd y Cyngor ers 6 mis. Yn ogystal, roedd yn amlwg bod y Cyn-aelod yn dioddef o bryderon iechyd.
Fe wnaethom ystyried yn ofalus pa mor briodol oedd parhau â’n hymchwiliad, gan ddefnyddio ein prawf budd y cyhoedd. Yn holl amgylchiadau penodol yr achos, fe wnaethom benderfynu nad oedd yn gymesur mwyach ac er budd y cyhoedd i barhau â’n hymchwiliad, pan nad yw bellach yn aelod o’r cyngor. Er ein bod wedi penderfynu rhoi’r gorau i’n hymchwiliad, roedd yn iawn bod yr achwynydd wedi dod â’i bryderon difrifol i ni, ac fe wnaethom egluro i’r Cyn-aelod y byddem, pe bai’n dychwelyd at wleidyddiaeth leol yn y dyfodol, ac os bydd pryderon tebyg am ymddygiad amhriodol yn cael eu cyfeirio atom, yn ystyried ymhellach faterion y gŵyn hon sydd bellach sydd wedi dod i ben.