Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn fod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Honnwyd bod yr Aelod wedi anfon gohebiaeth at yr Achwynydd a oedd yn amharchus ac yn gyfystyr â bwlio ac aflonyddu. Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol cynnal ymchwiliad ac y dylid ystyried paragraffau 4(b) a (4)(c) o’r Cod. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor. Cafodd tystion, gan gynnwys yr achwynydd, eu cyfweld a chafwyd cyflwyniadau ysgrifenedig ganddynt. Cafodd yr Aelod ei gyfweld.
Canfu’r ymchwiliad fod yr ohebiaeth a anfonwyd gan yr Aelod yn cynnwys sylwadau y gellid ystyried eu bod yn sarhaus ac yn peri gofid a’u bod yn amharchus o ran natur. Wrth ystyried cwynion yn ymwneud ag ymddygiad cynghorydd sy’n arfer ei hawl i ryddid mynegiant o dan Erthygl 10 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, rhaid i’r Ombwdsmon ystyried yn ofalus a fyddai unrhyw sancsiwn y gellid ei roi i’r aelod yn y pen draw yn ymyrraeth gymesur â’r hawliau hynny. Rhaid i’r Ombwdsmon hefyd ystyried pwrpas y fframwaith safonau moesegol ac a fyddai’n gymesur ac er budd y cyhoedd i unrhyw gamau pellach gael eu cymryd.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod esboniad yr Aelod dros anfon yr ohebiaeth, yn benodol am ei fod yn siomedig ei fod wedi cael gwahoddiad i’r cyfarfod ac wedi aros am beth amser i’r cyfarfod ddechrau dim ond i rywun ofyn iddo adael wedyn, yn gredadwy. Cydnabu’r Aelod ei fod wedi ysgrifennu’r llythyr yng “ngwres y funud”, tra oedd yr emosiynau’n uchel. Myfyriodd yr Aelod ar ei ymddygiad a chydnabu fod y llythyr wedi cael ei anfon yng ngwres y funud ac y dylai fod wedi treulio amser yn ystyried y mater cyn anfon llythyr o’r fath. Cynigiodd yr Aelod ragor o ymddiheuriadau hefyd ac mae’n amlwg ei fod yn edifar am y digwyddiad ac yn teimlo y gallai fod wedi delio â’r mater yn wahanol.
Yng ngoleuni’r mewnwelediad a’r edifeirwch a ddangoswyd gan yr Aelod, a’r ymddiheuriadau am y sylwadau a wnaed, roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd yn gymesur nac er budd y cyhoedd i unrhyw gamau pellach gael eu cymryd. Nid pwrpas hyn yw bychanu’r effaith a gafodd y sylwadau honedig ar yr Achwynydd, a oedd, yn ddealladwy, wedi peri gofid. Atgoffwyd yr Aelod o bwysigrwydd cynnal perthynas barchus ag aelodau o’r cyhoedd. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Aelod gael hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad.