Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) drwy ddefnyddio iaith homoffobig ac ymddwyn mewn ffordd fygythiol a brawychus yn ystod dau ddigwyddiad ar wahân, yn 2022 a 2023. Roedd yr Achwynydd yn gyd-aelod ac o’r un blaid wleidyddol. Ystyriodd yr ymchwiliad a allai’r ymddygiad fod wedi torri amodau paragraffau 4(b), 4(c) neu 6(1)(a) o’r Cod.
Roedd y dystiolaeth yn cadarnhau bod yr Aelod yn gweithredu fel gweithiwr yn ystod y digwyddiad cyntaf ac fel aelod o blaid wleidyddol yn ystod yr ail ddigwyddiad. Felly, dim ond paragraff 6(1)(a) o’r Cod, sy’n ymwneud ag anfri, oedd yn berthnasol yn rhinwedd swydd breifat yr Aelod.
At ei gilydd, daethpwyd i’r casgliad nad oedd y dystiolaeth yn awgrymu bod amodau paragraff 6(1)(a) wedi cael eu torri. Er y gallai ymddygiad yr Aelod fod wedi bod yn destun anfri personol, nid oedd yn ymddangos bod natur sylwadau ac ymddygiad yr Aelod yn ystod y ddau ddigwyddiad wedi cael effaith ar enw da’r Cyngor na’i swydd fel aelod mewn ffordd a fyddai’n cynnwys y ddarpariaeth hon o’r Cod.
O dan adran 69(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth fod y Cod Ymddygiad wedi’i dorri.