Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn fod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Magwyr a Gwndy (“y Cyngor Tref”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).
Honnwyd bod yr Aelod, a oedd yn Gadeirydd ar y pryd, wedi mynd yn ymosodol, yn anghwrtais ac yn elyniaethus tuag at yr Achwynydd (aelod o’r cyhoedd) yn ystod cyfarfod Cyngor Tref (a gynhaliwyd mewn lleoliad â phroblemau acwstig hysbys), ynghylch anawsterau clywed y dywedodd yr Achwynydd ei bod yn eu cael, ac nad oedd wedi mynd i’r afael â’r materion a rhoi addasiadau rhesymol ar waith.
Dechreuodd Swyddfa’r Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 4(a) (cyfle cyfartal) a 4(b) (parch ac ystyriaeth) o’r Cod. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor Tref, gan gynnwys copi o recordiad clyweledol o gyfarfod y Cyngor Tref.
Canfu’r ymchwiliad fod y recordiad clyweledol yn cynnwys sgwrs fer rhwng yr Achwynydd a’r Aelod am y mater, lle’r oedd tôn a chwrteisi’r Aelod wedi parhau’n gadarn a gwastad ac nid oedd yn awgrymu bod yr Aelod wedi gwneud unrhyw sylwadau a fyddai wedi bod yn ddigon difrifol i ysgogi’r Cod.
Canfu’r ymchwiliad mai cyfrifoldeb y Cyngor Tref fel corff fyddai addasiadau rhesymol (ac unrhyw fethiant posib i’w rhoi ar waith) ac nid cyfrifoldeb Aelod unigol yn unig, ac felly mater i’r Cyngor Tref fel corff i fynd i’r afael ag ef oedd unrhyw gŵyn am fethiant i wneud addasiadau rhesymol.
Canfu’r ymchwiliad hefyd fod y Cyngor Tref wedi cymryd camau rhesymol ac wedi rhoi mesurau ar waith i fynd i’r afael â materion a godwyd gan yr Achwynydd a gwneud addasiadau rhesymol. Daethpwyd i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu methiant i gydymffurfio â’r Cod.