Honnwyd bod Cyn-Aelod o Gyngor Tref Llandudno (“y Cyngor”) wedi bwlio ac aflonyddu ar yr Achwynydd, cydweithiwr, a’i fod ef hefyd wedi methu â’i thrin â pharch, ac wedi ymddwyn mewn ffordd a ddaeth â’i swydd fel aelod, a’r awdurdod lleol, i anfri.
Canfuom fod y Cyn-Aelod wedi anfon rhai cyfathrebiadau annymunol trwy lythyr, negeseuon testun ac ar gyfryngau cymdeithasol at/ynghylch yr Achwynydd. Nododd pe na bai hi’n ymddiswyddo o’i swydd yn y Cyngor, y byddai’n datgelu ei chamwedd honedig yn gyhoeddus. Pan na ymddiswyddodd yr Achwynydd, parhaodd i ysgrifennu a phostio am ei bryderon ar gyfryngau cymdeithasol. Er na enwodd yr Achwynydd ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd yn amlwg bod ei bostiadau’n ymwneud â hi, ac fe wnaethant achosi cryn ofid a phryder i’r Achwynydd.
Canfuom fod ymddygiad y Cyn-Aelod yn awgrymu achosion o dorri’r Cod. Er y byddai materion o’r fath fel arfer yn cael eu cyfeirio at Bwyllgor Safonau’r Awdurdod Lleol i benderfynu ar unrhyw dorri’r Cod a rhoi sancsiwn, ar yr achlysur hwn, o ystyried amgylchiadau personol penodol y Cyn-Aelod, penderfynom nad oedd mynd ar drywydd y materion ymhellach er budd y cyhoedd.