Dyddiad yr Adroddiad

17/06/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202309676

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Ym mis Ionawr 2024, honnwyd bod yr Aelod, yn rhinwedd ei swydd swyddogol, wedi mynd i weithle’r Achwynydd ac wedi achosi trallod sylweddol i’r Achwynydd a’r cyflogwr.

Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 6(1)(a) (anfri) a 7(a) (defnyddio eich swydd yn amhriodol) o’r Cod Ymddygiad (“y Cod”). Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, yr Achwynydd a Heddlu Dyfed Powys (“yr Heddlu”). Yn dilyn hynny, dywedodd yr Achwynydd ei fod yn dymuno tynnu’r gŵyn yn ôl cyn i gam casglu tystiolaeth yr ymchwiliad ddod i ben ac nad oedd canfyddiadau drafft o achosion posibl o dorri’r Cod wedi cael eu gwneud.

Gan ystyried dymuniadau’r Achwynydd a’r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad, gan gynnwys penderfyniad yr heddlu nad oeddent yn gallu bwrw ymlaen ag ymholiadau, o dan Adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon na fyddai parhau â’r ymchwiliad er budd y cyhoedd. Felly, daethpwyd â’r ymchwiliad i ben.