Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Dinbych-y-pysgod (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) drwy fynd i gartref yr Achwynydd un noson i siarad â’i mab, sydd yn ei arddegau, am fater yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Honnwyd iddo ddefnyddio ei swydd yn amhriodol i awgrymu y byddai’n cael gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn erbyn mab yr Achwynydd, ac na fyddai’r mab yn gallu gweithio yn y dref wedi hynny. Honnwyd hefyd bod yr Aelod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill oherwydd ei fod wedi codi ei lais ac wedi defnyddio tôn ymosodol.
Roedd ymchwiliad yr Ombwdsmon yn ystyried a oedd yr Aelod wedi torri amodau paragraff 6(1)(a) o’r Cod drwy ddwyn anfri ar ei swydd neu ei awdurdod, neu 7(a), drwy geisio defnyddio ei swydd yn amhriodol i roi mantais iddo’i hun, neu i greu anfantais i rywun arall. Ystyriwyd hefyd a oedd yr Aelod wedi mynd i gartref yr Achwynydd yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd yn y gymuned ac, os felly, a fyddai unrhyw achosion pellach o amodau’r Cod yn cael eu torri.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor. Cafwyd tystiolaeth gan yr Achwynydd, ei mab a thrydydd parti a aeth draw i gartref yr Achwynydd gyda’r Aelod ac a oedd yn bresennol ar adeg y digwyddiad honedig. Cafwyd gwybodaeth hefyd gan yr Aelod.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yr Aelod, o’r hyn a ddywedodd yr holl dystion, wedi dweud ei fod wedi mynd i gartref yr Achwynydd yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd yn y gymuned. Nid oedd yn galw fel rhan o’i swydd yn y cyngor – roedd hwn yn fater preifat yr oedd yn delio ag ef yn bersonol. Felly, nid oedd rhaid iddo lynu wrth holl ddarpariaethau’r Cod Ymddygiad ar gyfer cynghorwyr.
Fodd bynnag, byddai’r Aelod wedi cael ei rwymo gan y gofyniad i beidio â gweithredu mewn ffordd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar ei swydd, neu ar ei awdurdod. Byddai hefyd wedi gorfod sicrhau nad oedd yn ceisio defnyddio ei swydd yn amhriodol i roi mantais iddo’i hun nac i greu anfantais i rywun arall.
Canfu’r Ombwdsmon, er i’r Achwynydd ddweud bod yr Aelod wedi cyfeirio, ar un adeg, at y ffaith ei fod yn Gynghorydd ac yn Gyn-faer a Chyn-athro yn y dref, ar y cyfan, roedd yn amlwg o’r dystiolaeth fod yr Aelod yn ceisio annog mab yr Achwynydd i beidio ag ymddwyn yn y fath fodd yn y dyfodol. Eglurodd y gallai difrod troseddol arwain at ganlyniadau difrifol. Ymddengys mai rhai o ganlyniadau gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yr oedd yr Aelod wedi cyfeirio atynt oedd yr anawsterau o ran cael swyddi, a’r anawsterau ymarferol wrth weithio ym maes lletygarwch pe bai cyrffyw yn cael ei roi ar waith. O ystyried yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod tystiolaeth yn awgrymu bod yr Aelod wedi ceisio defnyddio ei swydd yn amhriodol i gael mantais neu i greu anfantais i fab yr Achwynydd.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr Aelod, ar y cyfan, yn debygol o fod wedi bod yn ddig. Roedd llawer o ddifrod wedi’i wneud i’w ddrws ffrynt ac roedd ei deulu wedi cael braw. Dywedodd mab yr Achwynydd ei fod yn synhwyro bod yr Aelod yn ddig am ei fod yn uchel ei gloch. Fodd bynnag, nid oedd yn cofio gweld yr Aelod yn gwneud unrhyw ystumiau. Er gwaethaf pryder dealladwy’r Achwynydd o gael ymwelydd ‘dig’ yn dod i’w chartref yn hwyr gyda’r nos, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod digon o dystiolaeth ar gael i awgrymu bod yr Aelod wedi ymddwyn yn amhriodol ac wedi dwyn anfri ar ei swydd neu ar ei awdurdod.
Canfu’r Ombwdsmon mai anghydfod preifat oedd hwn, a bod yr Aelod wedi ceisio ei ddatrys yn breifat. Ar y cyfan, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi gan y dystiolaeth a ystyriwyd fod y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau wedi’i dorri.
O dan Adran 69(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 2000, canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen gweithredu yng nghyswllt y materion a oedd yn destun yr ymchwiliad.