Dyddiad yr Adroddiad

02/05/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Conwy

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202401427

Canlyniad

Dim tystiolaeth o dorri’r Cod

Honnwyd bod yr Aelod wedi gwneud sylw wrth yr Achwynydd a’i ŵr, mewn lleoliad preifat mewn tafarn leol, yr oedd yr Achwynydd yn ei ystyried yn wahaniaethol ac yn groes i’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan gynghorwyr lleol.

Gwelsom fod sgwrs danbaid wedi digwydd rhwng cynghorwyr a’r Achwynydd a’i ŵr. Gan fod y digwyddiad wedi digwydd y tu allan i leoliad Cyngor, nid oedd y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau Awdurdodau Lleol (“y Cod”), yn gyffredinol, yn berthnasol. Fodd bynnag, ystyriom a ellid yn rhesymol ystyried bod sylwadau’r Aelod yn dwyn anfri ar eu swydd fel aelod, neu ar eu hawdurdod, er iddynt gael eu gwneud mewn cyd-destun y tu allan i’w gwaith i’r Cyngor. Canfuom nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod sylw’r Aelod yn wahaniaethol ei natur, ac nid oeddem o’r farn bod unrhyw dystiolaeth yn awgrymu unrhyw dorri’r Cod ar yr achlysur hwn.