Dyddiad yr Adroddiad

09/29/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Bwcle

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202105656

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan Gyn Glerc Cyngor Tref Bwcle (“y Cyngor Tref”) fod Aelod (“yr Aelod”) o’r Cyngor wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod yr Aelod wedi galw am ymddiswyddiad y Cyn Glerc mewn cyfarfod o’r Cyngor a fynychwyd gan Gynghorwyr, staff ac aelodau’r cyhoedd.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Ddirprwy Swyddog Monitro Cyngor Sir y Fflint i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor. Bydd y crynodeb hwn yn cael ei ddiweddaru yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau.