Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Powys (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad. Digwyddodd yr ymddygiad y cwynwyd amdano pan etholwyd yr Aelod i’r Cyngor ac i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (“yr Awdurdod”). Estynnwyd yr ymchwiliad i gynnwys ystyriaeth o’r rôl hon ar yr Awdurdod. Yn hwyrach, ymddiswyddodd yr Aelod o’r swydd hon.
Ein canfyddiad, o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd bod ein hadroddiad ar ein hymchwiliad yn cael ei gyfeirio at Bwyllgorau Safonau’r Cyngor a’r Awdurdod. Dewisodd y ddau gorff hynny gyfeirio’r mater o dan reoliadau perthnasol i Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ceredigion, i’w ystyried. Canfu’r Pwyllgor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad, mewn perthynas â’r Cyngor a’r Awdurdod. Penderfynodd y Pwyllgor ei bod yn briodol ceryddu’r Aelod am y toriadau a ganfuwyd mewn perthynas â Chodau Ymddygiad y Cyngor a’r Awdurdod. Yn ogystal, gwnaeth y Pwyllgor argymhellion hyfforddi.
Mae penderfyniad y Pwyllgor ar gael yma https://powys.moderngov.co.uk/documents/s90124/Pwyllgor%20Safonau%20a%20Moeseg%20-%20Ethics%20and%20Standards%20Committee%20Cyngor%20Sir%20Ceredigion%20County%20Council%20-%20.pdf