Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Powys (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).
Honnwyd bod yr Aelod wedi gwneud sylwadau gwahaniaethol wedi’u cyfeirio at yr Achwynydd mewn fideo a gyhoeddwyd ar-lein. Ystyriodd yr ymchwiliad baragraffau canlynol y Cod:
- 4(a) – rhaid i aelodau gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau gan roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb waeth beth fo’u rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd.
- 4(b) – rhaid i aelodau ddangos parch ac ystyriaeth at eraill.
- 4(c) – rhaid i aelodau beidio â bwlio nac aflonyddu ar unrhyw un.
- 6(1)(a) – rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu ar eu hawdurdod.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor a’r Achwynydd. Ymatebodd yr Aelod yn ysgrifenedig i’r honiad hefyd.
Canfu’r ymchwiliad fod esboniad yr Aelod am y sylwadau a wnaed yn y fideo yn gredadwy ac yn ddilys a bod y sylwadau wedi cael eu camddehongli. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod yr Aelod wedi gwneud sylwadau gwahaniaethol ac nid oedd unrhyw dystiolaeth o dorri’r Cod.