Dyddiad yr Adroddiad

09/01/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202300186

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn wedi’i hunangyfeirio gan Aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Sir Penfro (“y Cyngor”) ei fod wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”). Honnwyd bod y Cyn-Aelod wedi recordio nodyn llais hiliol (recordiad llais sain o neges) a anfonodd wedyn at ei bartner, trwy gymhwysiad negeseua gwib “WhatsApp”. Honnwyd hefyd bod y Cyn-Aelod wedi rhannu gwybodaeth yn ymwneud â busnes y Cyngor ynghyd â sylwadau amharchus am aelodau’r cyhoedd i’w bartner, trwy WhatsApp.

Ar adeg cyflwyno’r gŵyn hunangyfeiriedig, roedd y Cyn Aelod yn aelod o’r Cyngor. Ymddiswyddodd yn ddiweddarach.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y Cyn Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 4(b) – Rhaid i aelodau ddangos parch ac ystyriaeth at eraill.
  • 5(a) – Rhaid i Aelodau beidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth y dylid yn rhesymol ei hystyried yn wybodaeth gyfrinachol, heb ganiatâd penodol person sydd wedi’i awdurdodi i roi caniatâd o’r fath, neu oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny.
  • 6(1)(a) – Rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.

Ystyriodd yr ymchwiliad wybodaeth gan y Cyngor. Cafwyd cyfrifon tystion a chafwyd Adroddiad Tystiolaeth Ddigidol gan ddarparwr Fforensig Digidol ac Ymchwiliadau Fforensig Corfforaethol. Yn ystod ei gyfweliad, dywedodd y Cyn Aelod fod y recordiad llais yn “ffugiad dwfn” (recordiad sain sydd wedi’i olygu gan ddefnyddio algorithm i ddisodli’r person yn y gwreiddiol gyda rhywun arall mewn ffordd sy’n gwneud iddo edrych yn ddilys) a grëwyd gyda bwriad maleisus. Derbyniodd y Cyn-Aelod, ar y cyfan, ei fod wedi rhannu gwybodaeth yn ymwneud â busnes y Cyngor ynghyd â sylwadau amharchus am aelodau’r cyhoedd i’w bartner, trwy WhatsApp. Eglurodd ei fod o dan bwysau personol ar y pryd a’i fod yn “bwrw ei lid” gyda’i bartner.

At ei gilydd, canfu’r ymchwiliad mai’r llais ar y recordiad oedd llais y Cyn-Aelod a’i fod wedi anfon y recordiad at ei bartner trwy WhatsApp. Ystyriwyd cynnwys y nodyn llais yn un hiliol. Ystyriwyd tystiolaeth o adroddiadau eang yn y cyfryngau am y recordiad llais. Canfu’r ymchwiliad y gellid yn rhesymol ystyried ymddygiad y Cyn-Aelod yn ddrwgdybus ac y gallai danseilio’n ddifrifol ar hyder y cyhoedd yn y Cyngor ac ar swydd yr aelod. Roedd felly’n awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod.

Canfu’r ymchwiliad hefyd nad oedd y Cyn Aelod yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd pan rannodd wybodaeth yn ymwneud â busnes y Cyngor ynghyd â sylwadau amharchus am aelodau’r cyhoedd i’w bartner, trwy WhatsApp. Darganfuwyd felly nad oedd paragraffau 4(b) a 5(a) o’r Cod yn ymwneud â’r achos hwn. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad fod rhannu’r wybodaeth ynghyd â sylwadau amharchus am aelodau’r cyhoedd yn amhriodol ac yn awgrymu toriad pellach o baragraff 6(1)(a) o’r Cod.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, i’w ddyfarnu gan dribiwnlys.